PDF 901.99KB
Hyfforddiant
At Excel we have a proactive approach to training. Supporting an enhanced culture for learning ensures that challenges are embraced and staff knowledge and skills are continuously enhanced to improve their capacity and capability to carry out their duties and differentiates Excel from other enforcement agencies.
Yn Excel mae gennym ddull hyfforddi rhagweithiol. Mae cefnogi diwylliant dysgu uwch yn sicrhau ein bod yn croesawu heriau a bod sgiliau a gwybodaeth staff yn cael eu gwella’n barhaus er mwyn gwella eu capasiti a’u gallu i gyflawni eu dyletswyddau; dyma sy’n yn gwneud Excel yn wahanol i asiantaethau gorfodi eraill.
Canolfan asesu addysg gydnabyddedig
High Court Enforcement Group, rhiant-gwmni Excel, yw’r unig asiantaeth gorfodaeth sydd hefyd yn ganolfan asesu addysg gydnabyddedig ar gyfer dyfarniadau yn y Fframwaith Cymwysterau Rheoledig (RQF). Mae’r cymwysterau hyn wedi’u hachredu gan Agored Cymru o dan Gymwysterau Cymru ac wedi’u hardystio gan y Chartered Institute of Legal Executives (CILEx).
Felly, mae High Court Enforcement Group ac Excel ar flaen y gad o ran rhagoriaeth addysgol a datblygu staff ar gyfer y rheini sy’n ymwneud ag adfer dyledion.
Hyfforddiant sydd wedi ennill gwobrau
- Gwobrau Perfformiad IRRV 2018, Rhagoriaeth ym maes Datblygu Staff - ENILLYDD
- Gwobrau Credyd Prydain CICM 2018, Gwobr Effaith Dysgu a Datblygu - ENILLYDD
- Gwobrau Perfformiad IRRV 2018, Rhagoriaeth ym maes Gorfodi – CYMERADWYAETH UCHEL
- Gwobrau Cyfraith Fodern 2018 – CYMERADWYAETH UCHEL
Cymwysterau a gynigir
Mae ein cymwysterau rheoledig yn cynnwys:
- Lefel 2 mewn Cymryd Rheolaeth o Nwyddau
- Lefel 3 mewn Cymryd Rheolaeth o Nwyddau a Gorfodi Sifil
- Lefel 3 mewn Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl a Phobl Agored i Niwed mewn perthynas ag Arferion Gorfodi
Gweithdai
Hefyd, rydym yn darparu gweithdai ‘Marc Ansawdd’ ar y pynciau canlynol:
- Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl a Phobl Agored i Niwed
- Dealltwriaeth o Reoli Gwrthdaro a Thrais
- Gweithredu Prosesau Dogfennau Cyfreithiol
- Meddiant Tir ac Eiddo
Rydym yn darparu hyfforddiant i drydydd partïon
- Awdurdodau Lleol
- Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM
- Cwmnïau cyfreithiol
- Asiantaethau gorfodi
- Cwmnïau diogelwch
- Tai cyllid
- Arwerthwyr
- Ymarferwyr ansolfedd
- Grwpiau cyngor ar arian
Rhagor o wybodaeth
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein hyfforddiant drwy gysylltu â’r tîm drwy ein ffurflen ymholiadau hyfforddiant neu anfon e-bost atom.
Awards
High Court Enforcement Group and Excel Civil Enforcement have won or been highly commended in the following industry awards:
IRRV Performance Awards 2018, Excellence in Staff Development - WINNER
CICM British Credit Awards 2018, Learning and Development Impact Award - WINNER
IRRV Performance Awards 2018, Excellence in Enforcement - HIGHLY COMMENDED
Modern Law Awards 2018 - HIGHLY COMMENDED
